Daeth dau Archesgob Cymru ynghyd am y tro cyntaf i gyhoeddi neges ar y cyd, yn gwahodd pobl i ddychwelyd i’r eglwys y Nadolig hwn.
Mae Andrew John, Archesgob Anglicanaidd Cymru wedi uno gyda Mark O’Toole, Archesgob Caerdydd ac Esgob Menevia i gynnig gwahoddiad i’r eglwys y Nadolig hwn, gan ddweud er gwaethaf “anhawster ac anobaith” eleni, “bu fflachiadau o oleuni yn y tywyllwch”.
Soniodd y ddau Archesgob am enghreifftiau tebyg i, “Caredigrwydd cymdogion yn parhau cyfeillgarwch a ddeilliodd o’r pandemig … Miliynau o bobl yn anrhydeddu coffadwriaeth am Frenhines ddihunan ac ymroddedig. Ysgolion, eglwysi a mudiadau cymunedol eraill yn croesawu ffoaduriaid gyda breichiau agored i’w mannau lloches.”
Mae’r ddau Archesgob, y ddau ohonynt yn gymharol newydd i’w swyddi, wedi meithrin perthynas waith dda dros y flwyddyn ddiwethaf. Dymunent annog pobl Cymru, gan ddweud “er y cawsom lawer o heriau” dros y flwyddyn, “mae croeso cynnes yn aros amdanoch” mewn eglwysi ar draws y wlad.
Mae eu neges yn dechrau gyda stori hyfryd ysgrifennu carol adnabyddus Dawel Nos gan annog pobl i gofio y gall digwyddiadau sy’n dechrau’n “gythryblus” neu “mewn braw” weithiau ddod i ben gydag “alaw heddwch”. Daw eu datganiad i ben drwy ddweud: “Weithiau gall gwir neges y Nadolig gael ei hanghofio yn y cyfnod cyn 25 Rhagfyr gyda holl brysurdeb paratoadau, coginio, siopa a lapio anrhegion. Pam na ddewch i’r Eglwys y Nadolig hwn i roi Tywysog Heddwch yn y canol unwaith eto?”
Ar 24 Rhagfyr 1818, cyfarfu Joseph Mohr, offeiriad ifanc o dref fach yn Awstria â Franz Xavez Gruber, ysgolfeistr ac organydd lleol, i rannu cerdd yr oedd wedi’i hysgrifennu o’r enw ‘Stille Nacht’. Roedd y Tad Joseph wedi gofyn i Gruber roi’r geiriau i gerddoriaeth yn y gobaith y byddai’r gân newydd ei chyfansoddi yn cael ei pherfformio’n ddiweddarach yn eglwys y plwyf wrth i drigolion y dref ddathlu dyfodiad Iesu Grist ar Noswyl Nadolig. Tra bod Gruber wedi llwyddo i gyfansoddi alaw mewn hanner diwrnod, wedi cyrraedd yr eglwys, sylweddolon nhw fod yr organ wedi ei dinistrio gan lygod. Nid oedd unrhyw fodd y gellid trwsio’r organ cyn y gwasanaeth. Roedd y ddau ohonyn nhw mewn anobaith.
Ond yn nhawelwch y noson, ar ôl i’r gwasanaeth eglwysig ddod i ben, daeth Mohr o hyd i gitâr ac, mewn cytgord â Gruber, canasant eu cân yn dyner am y tro cyntaf. Ymunodd y gynulleidfa, mewn syfrdandod o’r trefniant, â hwy wrth iddynt ganu’r gytgan: ‘cwsg mewn gwynfyd a hedd, cwsg mewn gwynfyd a hedd’. Noson a ddechreuodd mewn trychineb, a ddiweddodd gydag alaw heddwch.
Yn debyg iawn i stori ‘Tawel Nos’, mae stori’r Nadolig yn cychwyn yn gythryblus hefyd. Pan deithiodd Mair a Joseff y daith hir a llafurus i Fethlehem, gyda thraed pothellog, llygaid blinedig, a babi newydd ar y ffordd, roedd angen rhywle i orffwys arnyn nhw. Yn Efengyl Luc, clywn nad oedd lle ar gael iddynt. Ac eto, yn nhywyllwch y nos gyda seren ddwyreiniol yn edrych drosto, y gwnaethpwyd Duw yn ymgnawdoledig. Noson a ddechreuodd mewn ofn, a orffennodd gyda genedigaeth Iesu, Tywysog Tangnefedd.
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi wynebu llawer o heriau. Mae pobl yn dal i fynd i’r afael ag effeithiau’r coronafirws. Mae gwrthdaro yn cynddeiriogi mewn llawer o wledydd ar draws y byd. I gyd-fynd â hyn, mae’r argyfwng costau byw yn gwthio llawer yn ddyfnach i dlodi wrth iddynt frwydro gyda chostau byw ddydd i ddydd. Buom yn galaru am golli Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.
Eto i gyd, yn yr adegau hyn o anhawster ac anobaith, bu fflachiadau o oleuni yn y tywyllwch. Caredigrwydd cymydog yn parhau â chyfeillgarwch a dyfodd allan o’r pandemig, gan brynu nwyddau i rywun i lawr y ffordd. Miliynau o bobl yn anrhydeddu’r cof am Frenhines anhunanol ac ymroddedig. Ysgolion, eglwysi a sefydliadau cymunedol eraill yn croesawu ffoaduriaid â breichiau agored i’w mannau noddfa. Yma yng Nghymru yn arbennig rydym am gael ein hadnabod fel lle noddfa, gwlad heddwch. Weithiau gellir anghofio gwir neges y Nadolig yn y cyfnod cyn 25 Rhagfyr gyda phrysurdeb y paratoadau, coginio, siopa a lapio anrhegion. Beth am ddod i’r Eglwys y Nadolig hwn i osod Tywysog Tangnefedd yn y canol unwaith eto? Mae croeso cynnes yn eich disgwyl. Nadolig Llawen a Bendithiol i chi gyd!
Archesgob Mark O’Toole
Archesgob Caerdydd
Esgob Mynyw
Archesgob Andrew John
Archesgob Cymru
Esgob Bangor
Cyhoeddwyd y Parchedicaf Andrew John yn Archesgob Cymru ar 6 Rhagfyr 2021 a chafodd ei orseddu ar 30 Ebrill 2022. Sefydlwyd y Parchedicaf Mark O’Toole yn Archesgob Caerdydd ar 20 Mehefin 2022.
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn dalaith ymreolus o’r Cymundeb Anglicanaidd byd-eang. Mae Archesgobaeth Caerdydd yn rhan o’r Eglwys Gatholig.