Mae’r hanes a roddwyd yn Adroddiad yr IICSA am gamdriniaeth yn achosi niwed yn wybodol i blant yn yr Eglwys Gatholig yn Lloegr a Chymru yn ystod y 50 mlynedd diwethaf yn dramgwyddol ac yn warthus. Yn ein cyfarfod yr wythnos hon, safwn yn Esgobion â’n gilydd mewn cywilydd dwys. Mynegwn ein tristwch a’n edifeirwch gerbron Duw.
Rydym wedi ystyried ar ein hangen i estyn allan o’r newydd at y rhai sy’n dioddef clwyfau’r difrod parhaol a achoswyd gan y cam-drin hwn. Rydym yn ymrwymo ein hunain i wrando’n fwy astud ar y rhai sydd wedi cael eu cam-drin er mwyn dysgu oddi wrthyn nhw ac elwa o’u doethineb. Trwy ddysgu o’u tystiolaeth y newidir calonnau.
Rydym yn ddiolchgar i’r goroeswyr hynny sydd wedi dod ymlaen, nid yn unig i osod ger ein bron eu profiad o gam-drin, ond hefyd i’n cynorthwyo i ddeall dyfnderoedd eu poen. Rydym yn gwahodd unrhyw un sydd wedi profi camdriniaeth i ddod ymlaen, ni waeth pa mor bell yn ôl digwyddodd y cam-drin. Rydym yn ymgymryd i wrando’n ofalus arnynt gyda chalon a meddwl agored a’u cefnogi ar daith o iachâd.
Rydym wedi ystyried argymhellion Adroddiad yr IICSA yn ofalus ac wedi eu derbyn yn ffurfiol. Eisoes rydym wedi dechrau gweithio tuag at eu gweithredu.
Dechreuodd gwrandawiadau cyffredinol yr IICSA i’r Eglwys fis Hydref diwethaf. Tua’r addeg honno ddaru ni benodi Adolygiad Annibynnol o’n Strwythurau a’n Trefniadau Diogelu yn yr Eglwys Gatholig yn Lloegr a Chymru. Gwnaethpwyd hyn gan Mr Ian Elliott, gweithiwr proffesiynol profiadol ar ddiogelu sydd wedi gweithio ledled y byd yn y maes hwn.
Yr wythnos hon, ochr yn ochr ag Adroddiad yr IICSA, rydym hefyd wedi gwyntyllu Adroddiad Terfynol Adolygiad Elliott yn fanwl ac wedi derbyn ei argymhellion yn llawn. Mae’n ddadansoddiad trylwyr o’n gwaith diogelu, yn ei wendidau a’i gryfderau. Mae’n cynnig nifer o argymhellion adferol a blaengar, sy’n unfrydol ag argymhellion Adroddiad yr IICSA ei hun. Bydd y gweithrediad yn cychwyn ar unwaith. Fe’i cyflenwid gyda chydweithrediad agos gyda’r Urddau Crefyddol sy’n chwarae rhan mor bwysig ym mywyd yr Eglwys.
Yn ein holl weithgareddau, ein dymuniad a’n penderfyniad yw bod yn Eglwys lle mae pob plentyn a pherson yn agored i niwed nid yn unig yn ddiogel ond yn cael ei feithrin i lawn llwyddiant dynol. Mae’r argymhellion hyn yn cyflwyno cammau inni tuag at y nod hon. Yn allweddol iddynt ceir dull seiliedig ar safonnau o ddiogelu ynghyd â chorff cenedlaethol a gomisiynwyd yn arbennig sydd â gallu archwylio a goruchwylio diogelu effeithiol yn yr Esgobaethau a’r Urddau Crefyddol. Bydd angen i bawb yn yr Eglwys weithio i safonnau gweithredu eglur a chyhoeddedig o ymddygiad a gweithred. Yn fwyaf arwyddocaol, llinwyd Adroddiad Elliott gyda chyfranogiad goroeswyr camdriniaeth. Mae eu mewnwelediad a’u doethineb wedi bod yn hollbwysig. Diolchwn iddynt am eu dewrder a’u haelioni mawr wrth weithio gyda ni ac edrychwn ymlaen at barhau â’r cydweithrediad cynyddol hwn.
Mae Adroddiad Elliott yn adeiladu ar bopeth a gyflawnwyd yn ein gweinidogaeth o ddiogelu yn yr 20 mlynedd diwethaf, cyflawniadau a gydnabuwyd hefyd yn Adroddiad yr IICSA. Felly, rydym yn wir ddiolchgar i bawb sy’n cyfrannu at waith diogelu yn yr Eglwys heddiw: y miloedd o Gynrychiolwyr Diogelu Plwyf, y gweithwyr proffesiynol yn ein Swyddfeydd Diolgelu ym mhob Esgobaeth, Y Comisiynau Diogelu sy’n goruchwylio’r gwaith hwn a sy’n rhoi cyngor gwrthrychol a phroffesiynol er mwyn arwain ein penderfyniadau, staff y Gwasanaeth Catholig Cynghorol ar Ddiogelu a’r rhai sy’n gwasanaethu ar y Comisiwn Catholig Cenedlaethol ar Ddiogelu. Mae’r rhain, a nifer o rai eraill, wedi cyfrannu’n fawr at y gwaith cyfredol o ddiogelu yn yr Eglwys.
Heddiw, fodd bynnag, heb betruso rydym yn cydnabod, ein methiannau, ein camgymeriadau, ein diffyg cydweithredu’n ddigonol. Rydym yn mynegi ein tristwch dwfn ac yn gofyn am faddeuant, yn enwedig oddi wrth dioddefwyr a goroeswyr. Rydym yn datgan ein penderfyniad i gyflawni’r cam nesaf yn y gwaith o ddiogelu a gofalu am oroeswyr. Mewn gweddi yr ydym yn troi at Grist y Bugail Da, ffynhonnhell iachâd a thosturi, gan ofyn y daw’r adeg poenus hwn o wirionedd yn gyfnod o ras wrth i ni ymdrechu i gyflawni’r weinidogaeth a ymddiriedwyd inni yn esgobion gydag undod bwriad diysgog.
You can read this statement in English too.